2014 Rhif 440 (Cy. 49)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i Reoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1224 (Cy.82)) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol (OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44) fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L201, 26.7.2013, t.49), ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw.

2. Mae Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 yn diwygio mewn un ffordd yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei rhoi ar labeli bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol, ac mae’n darparu ar gyfer cyfnod trosiannol ar gyfer cydymffurfio â’r gofyniad hwn.

3. Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.

4. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Polisi Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.


2014 Rhif 440 (Cy. 49)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                            24 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       28 Chwefror 2014

Yn dod i rym                      21 Mawrth  2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([3]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mawrth 2014 2014, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.

Diwygio Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005([4]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”)  rhodder y diffiniad a ganlyn —

ystyr “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol([5]) fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/2004([6]), ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw;”.

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2014



([1])           1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48 gan baragraffau 12 ac 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”.   Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

([2])         Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

 

([3])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). 

([4])           O.S. 2005/1224 (Cy.82).

([5])           OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44.

([6])           OJ Rhif L201, 26.7.2013, t.49.